Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cefnogi Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, gan rannu ei arbenigedd mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgiadol sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth. 

Mae Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 13 Tachwedd 2026, yn dod â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru ynghyd i ystyried ymwybyddiaeth o ddiogelu, dysgu ac arferion.  

Mae gwiriadau DBS yn un rhan o gyfraniad DBS at ddiogelu. Yn dibynnu ar rôl, sefydliad ac amgylchiadau gweithiwr proffesiynol, gall agweddau eraill sy’n ymwneud â DBS fod yn berthnasol hefyd, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer gwiriadau, gweithgareddau wedi’u rheoleiddio, cyfrifoldebau atgyfeirio, a gwahardd.  

Yn ystod Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru, bydd DBS yn cyfrannu arbenigedd ar y pynciau hyn at weithgareddau a drefnir gan Fyrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru.  

Gweithio gyda phartneriaid diogelu ledled Cymru  

Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol ledled Cymru yn trefnu rhaglenni o weithgareddau a sesiynau dysgu trwy gydol yr wythnos.  

Mae DBS yn cyfrannu arbenigedd at nifer o’r sesiynau hyn drwy Owain Rowlands, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol DBS ar gyfer Cymru.  

Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys:  

Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro  

Bwrdd Diogelu Gwent  

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru  

Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru  

Dydd Gwener 13 Tachwedd, 9:30am i 10:30am  

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg  

Pynciau DBS a archwilir yn ystod yr wythnos  

Ar draws gweithgareddau’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol, mae pynciau DBS sy’n codi’n rheolaidd yn cynnwys: 

Mae sesiynau Caerdydd a’r Fro a Gogledd Cymru yn cwmpasu ystod eang o bynciau Datgelu a Gwahardd. Mae Gwent a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnwys sesiynau sy’n canolbwyntio’n benodol ar y Ddyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio. Mae sesiwn Gorllewin Morganwg yn archwilio ymddygiad niweidiol y tu allan i’r gweithle, risg o niwed, gwahardd ac atgyfeiriadau gwahardd.  

Mae’r sesiynau’n cael eu trefnu a’u cynnal gan y Byrddau Diogelu Rhanbarthol priodol, gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyfrannu arbenigedd Datgelu a Gwahardd fel rhan o’u gweithgarwch Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru ehangach.  

Recriwtio mwy diogel a gwiriadau’r DBS 

Mae’r math o wiriad DBS a all fod ar gael yn dibynnu ar y rôl.  

Gall sefydliadau ddefnyddio canllawiau DBS i ddarganfod pa fath o wiriad y gallant ei gael ar gyfer rôl benodol.  

Darganfod pa fath o wiriad DBS y gallwch ei gael 

Cyfrifoldebau atgyfeirio  

Efallai y bydd gan sefydliadau gyfrifoldebau ynghylch gwneud atgyfeiriadau i DBS.  

Mae canllawiau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn egluro pwy all wneud atgyfeiriad, pwy sydd â dyletswydd gyfreithiol i atgyfeirio a’r amodau sy’n berthnasol.  

Cymorth y tu hwnt i Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru  

Mae gwybodaeth, canllawiau a chymorth DBS yn parhau i fod ar gael y tu hwnt i sesiynau unigol ac Wythnos Diogelu Genedlaethol Cymru.  

Mae Ymgynghorwyr Allgymorth Rhanbarthol DBS yn darparu cymorth pwrpasol i sefydliadau o fewn eu rhanbarthau dynodedig. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cymorth gydag ymholiadau sy’n gysylltiedig â DBS, gwiriadau DBS a gwybodaeth am ddyletswyddau neu bwerau atgyfeirio.